Dyfarniad lefel 3 Atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau traddodiadol- Calon Sir Benfro

Haverhub, Hwlffordd

Tachwedd 18-19 2024
Dim tâl i bobl o Sir Benfro a'r Rhanbarth

Mae'r cwrs achrededig hwn yn ychwanegiad anhepgor i bortffolio DPP unrhyw un sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu neu adeiladu treftadaeth. Trwy enghreifftiau damcaniaethol ac ymarferol mae'r cwrs yn ymdrin â'r meysydd gwybodaeth mwyaf hanfodol sydd eu hangen cyn gweithio ar hen adeiladau. Mae'r tiwtoriaid gwybodus a phrofiadol yn defnyddio astudiaethau achos ac arddangosiadau ymarferol i alluogi ymgeiswyr i roi eu dysgu mewn cyd-destun bywyd go iawn.

Pwy ddylai fynychu?
Mae'r hyfforddiant hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio yn y diwydiant eiddo, adeiladu neu dreftadaeth adeiladu gan gynnwys Contractwyr, Manylwyr, Cynnal a Chadw Eiddo a Dylunio, Penseiri, Peirianwyr, Asiantau Cynllunio ac Arolygwyr Adeiladau.

Yn ystod y cwrs 2 ddiwrnod byddwn yn ymdrin â’r pynciau canlynol:

1. Pam ei bod yn bwysig atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau traddodiadol cyn 1919.

  • Prif nodweddion a meini prawf y dylid eu hystyried wrth benderfynu a yw adeilad yn werth ei arbed.
    Rhesymau pam fod adeiladau a strwythurau traddodiadol yn cael eu cadw.
    Cymharu nodweddion perfformiad adeiladau traddodiadol â nodweddion adeiladu modern.
    Pwysigrwydd cadw cymaint o strwythur a nodweddion gwreiddiol adeiladau traddodiadol â phosibl wrth atgyweirio a chynnal a chadw.
    Sut mae atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau traddodiadol cyn 1919 yn cyfrannu at arferion cynaliadwyedd cyfredol.


2. Pa ddeddfwriaeth a chanllawiau swyddogol sy'n ymwneud ag atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau traddodiadol cyn 1919 sy'n llywio ein penderfyniadau?

  • Cynlluniau cadwraeth a rhestriad statudol o adeiladau hanesyddol ac ardaloedd cadwraeth.
    Sut mae rheoliadau a mesurau rheoli perthnasol yn ymwneud ag atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau traddodiadol cyn 1919.
    Prif dermau yn ymwneud ag atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau traddodiadol cyn 1919.

3. Pam ei bod yn bwysig defnyddio dulliau a deunyddiau adeiladu traddodiadol wrth atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau traddodiadol cyn 1919?

  • Dulliau a deunyddiau a ddefnyddir i gynnal a chadw ac atgyweirio adeilad traddodiadol gyda ffocws arbennig ar galch.
    Ystyr termau sy’n cynnwys ‘tebyg at ei debyg’, ‘atgyweiriadau gonest’, ‘gwrthdroadwyedd’ ac ‘ymyrraeth leiaf / cadw mwyaf posibl’.
    Astudiaethau achos ac enghreifftiau o sefyllfaoedd lle defnyddiwyd deunyddiau anghydnaws, dull adeiladu a chymhwyso a chanlyniadau hyn.
    Rhesymau dros integreiddio cydrannau neu orffeniadau adeiladu presennol a newydd.


4. Deall sut i atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau traddodiadol cyn 1919.

  • Ble i ddod o hyd i wybodaeth ac ymchwil i lywio ein penderfyniadau.
    Tystiolaeth o gyfnodau gwreiddiol neu wahanol o strwythur a nodweddion adeiladau traddodiadol yn ddiweddarach.
    Pwysigrwydd dadansoddi datblygiadau hanesyddol a newidiadau i adeilad neu gydrannau
    Dulliau a thechnegau a ddefnyddir i ddeall cyflwr adeilad.
    Pobl a phroffesiynau sy’n ymwneud â chynllunio a darparu gwaith atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau traddodiadol cyn 1919.


5. Deall sut i gynnal arferion gweithio diogel wrth atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau traddodiadol (cyn 1919).

  • Ymchwilio i sefyllfaoedd lle mae'n rhaid ceisio eglurhad i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel ac yn effeithiol.
    Edrych ar ffyrdd priodol o roi'r gorau i weithio pan fo amheuaeth yn codi ynghylch adeiladu presennol.
    Archwilio cyfrifoldebau personol yn ymwneud â diogelu ffabrig yr adeilad gwreiddiol.
    Cyllid ar gyfer yr Hyfforddiant hwn

Mae’r hyfforddiant hwn ar gael yn rhad ac am ddim i bobl sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin a’r Rhanbarth diolch i gyllid gan Gronfa Lefelu i Fyny Llywodraeth y DU a Chyngor Sir Caerfyrddin

*Content Required*

Rydym yn defnyddio'r data personol a ddarperir gennych ar y ffurflen hon ar gyfer gweinyddu'r rhaglen hyfforddi, casglu ffioedd os yw'n briodol, a monitro eich cynnydd a'ch canlyniadau (fel ennill cymwysterau). Gellir ei ddefnyddio hefyd mewn crynodebau ystadegol a chyhoeddiadau ymchwil, lle bydd yn ddienw ac ni chewch eich enwi. Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Mae prosesu eich data personol yn angenrheidiol ar gyfer cyfathrebu a rheoli’r hyfforddiant ac unrhyw restrau aros cysylltiedig. Felly, y sail gyfreithiol dros wneud hynny yw cyflawni tasg er budd y cyhoedd. Ni fyddwn yn rhannu’r wybodaeth hon ag unrhyw un o wasanaethau eraill y Cyngor na sefydliad allanol. Byddwn yn cadw eich data personol am 1 flwyddyn oni bai eich bod yn cydsynio i’ch manylion gael eu cynnwys yn ein Rhestr Postio am fwy o amser.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch eich hawliau ac i gael manylion cyswllt ein Swyddog Diogelu Data, ewch i’n gwefan: https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/diogelu-data/