Cyflwyniad i weithio gyda chalch mewn adeiladau
Canolfan Tywi
POATrosolwg
Calch yw'r rhwymwr sydd i'w gael bron ym mhob morter, plastr a rendrad traddodiadol. Mae hefyd yn dod yn fwyfwy poblogaidd fel deunydd ar gyfer prosiectau adeiladu newydd. Mae'r ystod eang o gynhyrchion calch sydd ar gael ar y farchnad yn golygu bod amrywiol bosibiliadau ar gael i ni. Bwriad y modiwl hyfforddi hwn yw cyflwyno'r gwahanol fathau o galch, y dewis o agregau ac ychwanegion, a dewis y cyfuniad priodol i weddu i'r dasg. Bydd yr hyfforddiant yn cwmpasu elfennau ymarferol megis cymysgu'r deunydd, ei gymhwyso ac ôl-ofal. Gellir cyflwyno'r cwrs hwn yng Nghanolfan Tywi neu ar safle sy'n berthnasol i'r ymgeiswyr.
Crynodeb o'r cynnwys
- Gweithio ar brosiectau cadwraeth ac atgyweirio hanesyddol
- Darganfod mecaneg hen adeiladau
- Deall calch – gwyddor calch a'r gylchred galch
- Mathau o galch, gan gynnwys pwti, calch hydrolig naturiol, calch corc a chywarch a chalch wedi'i gymysgu'n boeth
- Iechyd a diogelwch sy'n benodol i galch
- Ychwanegion – blew, pozzolana, rhwyll/sgrim
- Agregau
- Dadansoddi morteri
- Dulliau cymysgu
- Cymhwyso i wahanol gefndiroedd
- Sesiynau ymarferol
Pwy ddylai fynd ar y cwrs?
Mae'r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â phrofiad o weithio ym maes adeiladu - naill ai adeiladu treftadaeth neu adeiladu modern. Byddai'n werthfawr iawn i reolwyr safle, plastrwyr a seiri meini sy'n gweithio ar adeiladau hanesyddol.
Hyd
3-diwrnod
Safonau a grantiau hyfforddi CITB
Mae'r cwrs hwn yn safon hyfforddi CITB. Efallai y bydd cwmnïau cofrestredig CITB yn gymwys i wneud cais am gyllid gan CITB i dalu cost y cwrs hwn ac i dderbyn grant cwrs byr. I gael manylion llawn y grantiau a'r cyllid sydd ar gael, ewch i https://www.citb.co.uk/levy-grants-and-funding/grants-funding/ neu siaradwch â'ch ymgynghorydd lleol CITB.
Cod GET CITB a haen grant
GET2226 - haen grant 2