Calch a morteri calch
Canolfan Tywi
poaTrosolwg
Bwriad y cwrs hwn yw rhoi dealltwriaeth i'r ymgeisydd o weithio gyda morteri calch wrth adeiladu gyda, neu atgyweirio, gwaith maen, gwaith carreg a bricwaith traddodiadol. Mae'n cynnig cyfuniad cytbwys o hyfforddiant theori ac ymarferol.
Crynodeb o'r cynnwys
- Priodweddau calch
- Calch: cryfderau, defnydd, cyfyngiadau, gweithgynhyrchu, cymysgeddau hybrid.
- Calch wedi'i gymysgu'n boeth.
- Tywod, agregau ac ychwanegion.
- Caledu: carbonadu, y gylchred galch, manteision amgylcheddol.
- Dulliau a chanllawiau cymysgu.
- Adeiladu â charreg - cerrig sych, gwaith maen â morter, rwbel ar hap, cerrig nadd.
- Ychwanegion: pozzolana, blew, rhwyll atgyfnerthu
- Paratoi - y safle, ardal waith, cerrig, ôl-ofal.
- Offer - traddodiadol a modern.
- Gweithio yn y gaeaf gyda chalch.
- Nodi morteri.
- Dadansoddi morteri.
- Cyfnerthu, atgyweirio a phwyntio.
Pwy ddylai fynd ar y cwrs?
Mae'r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â phrofiad o weithio ym maes adeiladu - naill ai adeiladu treftadaeth neu adeiladu modern. Mae'n arbennig o berthnasol i'r rheiny sy'n gweithio gyda gwaith maen ac sy'n dymuno dysgu mwy am ddeunyddiau a dulliau traddodiadol.
Hyd
2-diwrnod
Safonau a grantiau hyfforddi CITB
Mae'r cwrs hwn yn safon hyfforddi CITB. Efallai y bydd cwmnïau cofrestredig CITB yn gymwys i wneud cais am gyllid gan CITB i dalu cost y cwrs hwn ac i dderbyn grant cwrs byr. I gael manylion llawn y grantiau a'r cyllid sydd ar gael, ewch i https://www.citb.co.uk/levy-grants-and-funding/grants-funding/ neu siaradwch â'ch ymgynghorydd lleol CITB.
Cod GET CITB a haen grant
GET0516 - haen grant 2