Cadw neu adfer cynnyrch pren
Canolfan Tywi
POAMae seiri coed a seiri dodrefn yn gweithio ar ystod amrywiol o dasgau sy'n gysylltiedig â'n hadeiladau traddodiadol; o do wedi'i dorri i atgyweirio ffenest godi. Mae pob un o'r rhain yn gofyn am ddealltwriaeth o arwyddocâd yr elfennau hynny, cydnabyddiaeth o ddeunyddiau priodol ac amhriodol a dulliau o osod trefn ar atgyweiriadau ac addasiadau mewn modd diogel.
Bwriad y cwrs hwn yw canolbwyntio ar fod yr ymgeisydd yn gallu defnyddio gwybodaeth dechnegol ac adnoddau i gadw neu adfer cynnyrch pren.
Bydd cynnwys y cwrs yn cwmpasu:
- Cydnabod arwyddocâd hanesyddol a gwneud newidiadau y gellir eu dad-wneud
- Asesiadau o'r effaith ar dreftadaeth
- Deall dulliau priodol a sefydlu diwylliant diogel ar y safle i ddiogelu'r dreftadaeth a'i chyd-destun
- Rhaglennu, paratoi, cynllunio a gweithio i amserlen
- Adnabod ymyriadau blaenorol
- Deall effeithiau newidiadau i adeiladau
- Esbonio arddulliau uniadau, eu natur sy'n gysylltiedig ag oedran
- Technegau sefydlogi
- Elfennau sy'n dal pwysau a rhai nad ydynt yn dal pwysau
- Deall strwythur
Hyd
2 diwrnod
Ar gyfer pwy mae'r hyfforddiant yn addas?
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cwblhau NVQ2 neu 3 mewn gwaith coed neu sydd â phrofiad cyfatebol o weithio yn y grefft gwaith coed.
Safonau a grantiau hyfforddi CITB
Mae'r cwrs hwn yn safon hyfforddi CITB. Efallai y bydd cwmnïau sydd wedi'u cofrestru â CITB yn gymwys i wneud cais am arian gan CITB i dalu cost y cwrs hwn ac i dderbyn grant cwrs byr. I gael manylion llawn y grantiau a'r cyllid sydd ar gael, ewch i https://www.citb.co.uk/levy-grants-and-funding/grants-funding/ neu siaradwch â'ch ymgynghorydd lleol CITB.
Cod GIT CITB a haen grant
GET2093 - haen grant 2