Cadw gwaith carreg; atgyweirio a chynnal a chadw
Canolfan Tywi
POAMae'r cwrs hwn yn addas i ddysgwyr sydd â phrofiad o weithio gyda brics yn ogystal â seiri meini sefydledig. Ar ôl ei gwblhau bydd y dysgwyr yn gallu gwneud atgyweiriadau i waliau cerrig hanesyddol gan ddefnyddio dulliau sy'n briodol i adeiladwaith gwreiddiol y wal. Bydd yn cynnwys gwaith atgyweirio a sefydlogi ar rwbel, waliau o gerrig nadd ac o gerrig lled-nadd; fodd bynnag, ni fydd yn cynnwys unrhyw waith wrth fainc na gwaith cerfio.
Bydd y cynnwys y cwrs yn cynnwys:
- Cydnabod arwyddocâd hanesyddol a gwneud newidiadau y gellir eu dad-wneud ac asesiadau o effaith
- Adnabod ymyriadau blaenorol
- Offer y grefft
- Mathau o ategion
- Mathau o sylfeini
- Uniadau adeiladu a ddefnyddir mewn adeileddau o waith maen
- Gwahanol fathau o adeiladu waliau
- Cyrsiau ymestynnol
- Atgyfnerthu
- Growtio
- Ystorau, gosod atgyfnerthiadau, ategion a cherrig wedi'u hailgyfansoddi
- Gosod angorau adeileddol
- Caledu a phwyntio
- Torri morter diffygiol allan
Hyd
5 diwrnod
Pwy ddylai fod yn bresennol?
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cwblhau NVQ2 neu 3 mewn gwaith maen neu waith brics neu sydd â phrofiad cyfatebol o weithio yn y grefft gwaith maen.
Safonau a grantiau hyfforddi CITB
Mae'r cwrs hwn yn safon hyfforddi CITB. Efallai y bydd cwmnïau sydd wedi'u cofrestru â CITB yn gymwys i wneud cais am arian gan CITB i dalu cost y cwrs hwn ac i dderbyn grant cwrs byr. I gael manylion llawn y grantiau a'r cyllid sydd ar gael, ewch i https://www.citb.co.uk/levy-grants-and-funding/grants-funding/ neu siaradwch â'ch ymgynghorydd lleol CITB.
Cod GET CITB a haen grant
GET0537 - haen grant 3