Arolygu pren a lleithder mewn adeiladau
Canolfan Tywi
POATrosolwg
Mae'r pren mewn adeiladau yn dirywio ac yn pydru oherwydd amodau amgylcheddol anffafriol megis dŵr yn gollwng a lleithder neu wlybaniaeth am gyfnodau hir. Diben y cwrs hwn yw rhoi'r wybodaeth i ymgeiswyr er mwyn adnabod problemau'n ymwneud â lleithder a phydredd coed mewn adeiladau, eu datrys ac adrodd amdanynt. Mae'r safon hon yn cwmpasu:
- Cyddwyso a lleithder: achosion, diagnosteg, ac opsiynau triniaeth
- Pren: bioleg, pydredd, a phryfed
- Agweddau cyfreithiol, iechyd a diogelwch, methodoleg arolygon, ac ysgrifennu adroddiadau
Crynodeb o'r cynnwys
- Achosion lleithder mewn adeiladau
- Effeithiau lleithder mewn adeiladau
- Diagnosis a dulliau o drin lleithder codi
- Gweithdrefnau arolygu - dulliau o fesur ac asesu lleithder
- Deall dulliau adeiladu traddodiadol gan ganolbwyntio ar elfennau pren
- Tyllwyr pren a ffyngau
- Dulliau o drin plâu coed a phydredd ffwngaidd
- Mathau o gadwolion a sut i'w cymhwyso
- Deddfwriaeth, cyfrifoldebau ac atebolrwydd
- Gweithredu camau iechyd a diogelwch
- Swyddogaeth yr adroddiad arolygu a'i gynnwys
Pwy ddylai fynd ar y cwrs?
Mae'r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â phrofiad o weithio ym maes adeiladu - naill ai adeiladu treftadaeth neu adeiladu modern. Mae'n arbennig o berthnasol i'r rheiny sy'n gweithio mewn Galwedigaethau Coed a byddai'n werthfawr iawn i syrfewyr a phenseiri.
Hyd
1-diwrnod
Safonau a grantiau hyfforddi CITB
Mae'r cwrs hwn yn safon hyfforddi CITB. Efallai y bydd cwmnïau sydd wedi'u cofrestru â CITB yn gymwys i wneud cais am arian gan CITB i dalu cost y cwrs hwn ac i dderbyn grant cwrs byr. I gael manylion llawn y grantiau a'r cyllid sydd ar gael, ewch i https://www.citb.co.uk/levy-grants-and-funding/grants-funding/ neu siaradwch â'ch ymgynghorydd lleol CITB.
Cod GET CITB a haen grant
GET2147 - haen grant 1