Adnabod pensaernïaeth
Canolfan Tywi
POATrosolwg
Bydd y cwrs hwn yn darparu'r wybodaeth greiddiol allweddol am ddatblygiad pensaernïol adeiladau'r Deyrnas Unedig a dealltwriaeth fanwl o hyn. Bydd yn cynorthwyo'r dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o hanes adeiladu a sut y mae arddulliau wedi datblygu dros amser.
Hyd
2-diwrnod
Crynodeb o'r cynnwys
Bydd cynnwys y cwrs yn cwmpasu:
- Deall Arddulliau Pensaernïol: Gothig; Adeiladu â Phridd; Fframwaith Pren a mathau o fewnlenwad; Clasurol; Y Dadeni; Y mudiadau Arts and Crafts.
- Deall dilyniannau trwy'r oesau: Rhufeinig; Sacsonaidd; Normanaidd; Canoloesol; Tuduraidd; Jacobeaidd; Yr Adferiad; Dylanwad Ffleminaidd; Sioraidd; Fictoraidd; Modern (20fed ganrif)
- Deall y diffiniad brodorol a boneddigaidd o'r math o bensaernïaeth
Pwy ddylai fynd ar y cwrs?
Mae'r cwrs hwn yn gydran hanfodol o'r NVQ Lefel 3 mewn Galwedigaethau Coed Treftadaeth ond mae hefyd yn hynod berthnasol i fanylebwyr a chynllunwyr sy'n cynnal asesiadau o arwyddocâd hanesyddol adeilad.
Safonau a grantiau hyfforddi CITB
Mae'r cwrs hwn yn safon hyfforddi CITB. Efallai y bydd cwmnïau sydd wedi'u cofrestru â CITB yn gymwys i wneud cais am arian gan CITB i dalu cost y cwrs hwn ac i dderbyn grant cwrs byr. I gael manylion llawn y grantiau a'r cyllid sydd ar gael, ewch i https://www.citb.co.uk/levy-grants-and-funding/grants-funding/ neu siaradwch â'ch ymgynghorydd lleol CITB.
Cod GET CITB a haen grant
GET2092 - haen grant 1