Adnabod diffygion: achos ac effaith ar gyfer gwaith saer maen treftadaeth
Canolfan Tywi
POAAr gyfer adeiladau sydd wedi bod yn sefyll am 100 o flynyddoedd neu fwy, gall traul, patina a nodweddion sydd allan o blwm i gyd gyfrannu at eu cymeriad hanesyddol. Fodd bynnag, mae'n hanfodol fod saer maen yn gallu deall pryd y bydd nodwedd ar gymeriad yr adeilad yn dod yn fwy o ddiffyg ac o ganlyniad yn peryglu sefydlogrwydd a chynaliadwyedd yr adeilad. Bydd y cwrs hwn yn ymchwilio i ddifrod a achosir i adeilad trwy hindreulio, ymosodiadau cemegol a symudiad, ac yn trafod yr ymyriadau priodol i atal dirywiad pellach.
Bydd cynnwys y cwrs yn cwmpasu:
- Adnabod difrod a deunyddiau amhriodol
- Staenio a gweithgarwch halen
- Hindreulio
- Strwythurol
- Ymyriadau amhriodol
- Gwaith haearn sy'n dirywio/rhydu
- Ymweliad â'r safle i ddangos y diffygion