Adnabod diffygion; achos ac effaith ar gyfer galwedigaethau coed treftadaeth
Canolfan Tywi
POAGall diffygion mewn pren fod yn digwydd yn naturiol neu gael eu hachosi gan y dulliau trosi neu sychu a ddefnyddir. Mewn adeiladau, gall dirywiad a phydredd ddigwydd oherwydd amodau amgylcheddol anffafriol megis dŵr yn gollwng a lleithder neu wlybaniaeth am gyfnodau hir neu gall ddigwydd oherwydd bod pren amhriodol wedi'i ddewis. Diben y cwrs hwn yw rhoi'r wybodaeth i ymgeiswyr er mwyn nodi, datrys ac adrodd am broblemau'n ymwneud â diffygion mewn pren a phydredd mewn adeiladau.
Bydd cynnwys y cwrs yn cwmpasu:
- Gallu adnabod difrod a deunyddiau amhriodol
- Adnabod a deall cyddwysiad a lleithder: achosion a diagnosteg
- Deall effeithiau lleithder ar waith coed a'i drin
- Adnabod pydredd sych a'i drin
- Cydnabod ymosodiadau pryfed a nodi opsiynau triniaeth addas
Hyd
1 diwrnod
Ar gyfer pwy mae'r hyfforddiant yn addas?
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cwblhau NVQ2 neu 3 mewn gwaith coed neu sydd â phrofiad cyfatebol o weithio yn y grefft gwaith coed.
Safonau a grantiau hyfforddi CITB
Mae'r cwrs hwn yn safon hyfforddi CITB. Efallai y bydd cwmnïau sydd wedi'u cofrestru â CITB yn gymwys i wneud cais am arian gan CITB i dalu cost y cwrs hwn ac i dderbyn grant cwrs byr. I gael manylion llawn y grantiau a'r cyllid sydd ar gael, ewch i https://www.citb.co.uk/levy-grants-and-funding/grants-funding/ neu siaradwch â'ch ymgynghorydd lleol CITB.
Cod GIT CITB a haen grant
GET2077 - haen grant 1