Sut y Mae Hen Adeiladau’n Gweithio: gwneud y gorau o’ch adeilad traddodiadol â waliau solet

Mae dros hanner miliwn o adeiladau traddodiadol â waliau solet i’w cael yng Nghymru, sy’n rhoi cyfrif am 1/3 o stoc dai’r wlad. Os ydych chi’n gyfrifol am ofalu amdanynt a’u hatgyweirio, naill ai fel eu perchennog, neu fel adeiladwr, efallai y byddai o ddiddordeb i chi gael gwybod nad yw’r hen adeiladau hyn (y rhai a godwyd cyn 1919 fel rheol) yn cadw’r meddianwyr yn gynnes ac yn sych yn yr un ffordd â chartref mwy modern â wal geudod neu ffrâm bren.

Os byddwch yn defnyddio rendrad a phaentiau modern ar eich hen gartref mae siawns dda iawn y gallech fod yn gwneud difrod difrifol trwy drapio dŵr yn y waliau. Hefyd, mae waliau gwlyb yn oerach ac felly mae eich cartref yn ddrutach i’w wresogi.

Yr hyn y mae ei angen arnoch yw waliau ‘anadladwy’ wedi’u pwyntio neu eu rendro mewn calch. 

I gael rhagor o wybodaeth darllenwch neu lawrlwythwch y llyfryn gwybodaeth – Sut y mae Hen Adeiladau’n Gweithio: Gwneud y gorau o’ch adeilad traddodiadol â waliau solet. 

Edrychwch ar Fforwm Adeiladau Traddodiadol Cymru i ddod o hyd i adeiladwr sy’n deall sut i atgyweirio hen adeilad.