Gwneud Cais Adeilad Rhestredig

Mae adeiladau rhestredig yn adrodd rhan o hanes gorffennol Cymru, boed yn fythynnod di-nod neu'n gestyll mawreddog, ac maent yn cael eu gwarchod i sicrhau bod ein treftadaeth wych yn goroesi er budd cenedlaethau'r dyfodol.

Mae angen i unrhyw newidiadau a wneir i Adeilad Rhestredig barchu a chadw cymeriad yr adeilad hwnnw, ac felly fel arfer mae angen caniatâd i wneud y newidiadau hynny. Ceir gwybodaeth fanwl ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin ar ffurf Cwestiynau Cyffredin i'ch helpu i ofalu am Adeilad Rhestredig. Ymdrinnir â'r meysydd pwnc canlynol:

  • Gwybodaeth am restru
  • Pryd mae'n rhaid wrth Ganiatâd Adeilad Rhestredig?
  • Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
  • Gwneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig
  • Amodau Caniatâd Adeilad Rhestredig
  • Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
  • Cynnal a chadw adeilad rhestredig

Fel arall, gallwch lawrlwytho'r set lawn o Gwestiynau Cyffredin yma.

Er mwyn helpu pobl i wneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig, mae Canolfan Tywi wedi datblygu cwrs ar-lein o'r enw ‘Gwneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig: canllaw cam wrth gam ar gyfer gwneud newidiadau i’ch cartref hanesyddol’. Mae'r cwrs wedi bod yn werthfawr iawn i lawer o'r bobl sydd wedi'i gyflawni. I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs a gweld sylwadau cyfranogwyr, cliciwch yma.