Adeiladu Traddodiadol: o adeiladau 'clom' a tho gwellt i dai tref a thai teras

Mae dros ½ miliwn o hen gartrefi yng Nghymru, ond nid yw llawer o bobl yn sylweddoli pam eu bod yn rhan mor bwysig o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. 

Caiff hanes cymdeithasol a diwylliannol pob ardal ei adlewyrchu yn ei hadeiladau traddodiadol ac er nad yw rhai o bosibl yn ymddangos yn arbennig nac yn gyffrous i ddechrau, mae pob un yn elfen anhepgor o dirwedd hanesyddol Cymru. Gyda’i gilydd maent yn adrodd hanes Cymru, maent yn adrodd am y diwydiant a ffordd o fyw ein cyndeidiau, ond gallant gyfrannu at ein dyfodol hefyd. Mae llawer o ardaloedd yn adnabyddus am eu hadeiladau prydferth ac mae twristiaeth yn ffynnu o’u herwydd – meddyliwch am y Cotswolds neu Gaer. Neu meddyliwch am yr adfywio economaidd y mae dathlu hen adeiladau a diwydiant yn gallu ei ddwyn i ardal megis Blaenafon.

Mae cestyll a bythynnod, yn rhai a warchodir ac nas gwarchodir, oll yn adeiladau y byddai o fudd eu deall yn well a gofalu’n well amdanynt. Darllenwch y daflen hon:  Adeiladu Traddodiadol: o 'clom' a gweld toi i dai tref a thai teras a dathlwch hen adeiladau Cymru.