Treftadaeth Ysgolion Sir Gaerfyrddin Wledig

Mae'r prosiect 'Treftadaeth Ysgolion Sir Gaerfyrddin Wledig' wedi cynhyrchu adnoddau addysgu cyffrous, dwyieithog, y gellir eu defnyddio am ddim trwy glicio ar y ddelwedd isod

Edrychodd y prosiect cyffrous hwn ar ddwy elfen o dreftadaeth gyfoethog Sir Gaerfyrddin:

  • Treftadaeth Ddiwylliannol gan gynnwys y prif gymeriadau sydd wedi dylanwadu, nid yn unig ar y sir, ond ar Gymru a’r Iaith Gymraeg yn ogystal.
  • Treftadaeth Adeiledig Sir Gaerfyrddin o fythynnod hyd at gestyll mawreddog.

Arweiniwyd y prosiect gan Ganolfan Tywi mewn partneriaeth â Sbectrwm, a 10 o ysgolion mewn wardiau cymwys ledled y Sir.

Anogir disgyblion i ddysgu am gymeriadau Cymreig lleol a digwyddiadau hanesyddol pwysig, er mwyn dod â nhw'n fyw trwy adrodd straeon a chreu ffilmiau byrion. Roeddynt hefyd yn dysgu am ddulliau a deunyddiau adeiladu traddodiadol a sut mae amodau byw wedi newid dros amser.

Mae'r prosiect wedi derbyn £36,022 gan y cynllun LEADER - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru  - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â £5,900 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

 

HANES ADEILEDIG LLANDEILO- YSGOL TEILO SANT

Disgyblion Ysgol Teilo Sant wedi mwynhau dysgu am eu treftadaeth lleol o gwmpas tref Llandeilo.

      

Diwrnod bendigedig ar y Garn Goch. Bu Celtiaid a Rhufeinuaid Ysgol Teilo Sant yn dysgu am sut oedd bywyd yn eu hardal lleol dros 2000 o flynyddoedd yn ôl. Diolch i’r plant a’r staff am eu brwdfrydedd. Lle arbennig iawn.