Adeiladu ein Treftadaeth (2014-2017)

Ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, CITB, Cyngor Sir Gaerfyrddin a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Cyflawnwyd mewn partneriaeth gyda’r Ganolfan Adeiladu Genedlaethol a Chanolfan Achredu Arbenigol CITB.

Roedd Adeiladu ein Treftadaeth yn rhaglen bwrsariaeth sgiliau adeiladu traddodiadol Cymru gyfan a oedd yn canolbwyntio ar sgiliau crefftau treftadaeth Plastro, Gwaith Saer, Toi a Charegwaith. Gan ddilyn y Cynllun Bwrsariaeth Sylfeini mewn Treftadaeth fe gefnogodd 30 o fyfyrwyr am flwyddyn wrth iddynt ddilyn cymhwyster NVQ Lefel 3 gan roi 4 wythnos o hyfforddiant sgiliau arbenigol iddynt ac yna lleoliadau gyda Chwmnïau Treftadaeth arbenigol ledled y wlad. Fe wnaeth hefyd ategu eu hyfforddiant â gweithgarwch ychwanegol i ddatblygu sgiliau megis Datblygu Busnes, Ymwybyddiaeth o Gydraddoldeb ac Amrywiaeth a Chostio contract adeiladu.

Rhoddodd y prosiect gymorth hefyd i 10 o fenywod ddilyn cwrs rhagarweiniol mewn Sgiliau Adeiladu Treftadaeth. Rhaglen 5 mis oedd hon a oedd yn cwmpasu hyfforddiant mewn sgiliau Gwaith Saer, Caregwaith a Phlastro, yn ogystal â datblygiad personol a sgiliau Busnes. Roedd y rhaglen wedi’i lleoli yng Nghanolfan Tywi, ond yn cynnwys hyfforddiant damcaniaethol ac ymarferol gyda’r holl gyfranogwyr yn llwyddo i gwblhau’r Dyfarniad Lefel 3 mewn Atgyweirio a Chynnal a Chadw Adeiladau Traddodiadol (cyn 1919).

Hefyd darparwyd gweithgareddau addysgol a hyfforddiant DPP a gweithgarwch i uwchsgilio’r sector adeiladu treftadaeth trwy’r rhaglen hon. Fe wnaed hyn trwy’r Gynhadledd Adeiladu ein Treftadaeth, diwrnod agored Sgiliau Adeiladu a gynhaliwyd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, prosiect adnewyddu Galw Heibio am fis yn y Ganolfan Adeiladu Genedlaethol a chyfres o gyrsiau byrion, er enghraifft mewn Bosio Plwm ac Atgyweirio Ffenestri Codi.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect bwriwch olwg ar rai o’r astudiaethau achos am fyfyrwyr