Defnyddio Calch

Mae calch yn elfen hanfodol i’r mwyafrif o rendradau, plastrau, morterau a golchiadau sy’n addas i’w defnyddio ar adeiladau traddodiadol. Roedd yn cael ei ddefnyddio ar bron bob prosiect adeiladu tan ryw 100 mlynedd yn ôl ond ers y Rhyfel Byd Cyntaf mae wedi cael ei ddisodli’n raddol gan sment Portland, paentiau plastig a phlastrau gypswm.

   Yn bwysig, ac yn wahanol i lawer o gynhyrchion modern, mae deunyddiau sy’n seiliedig ar galch yn gadael i strwythurau ‘anadlu’. Mae natur anadladwy calch yn helpu i gynnal cydbwysedd yr adeilad, gan reoli gwlybaniaeth a lleithder, gan arwain at fanteision i iechyd, cyfforddusrwydd gwell y tu mewn a chan warchod ffabrig yr adeilad rhag difrod.

Os ydych chi’n gwneud unrhyw atgyweiriadau i adeilad traddodiadol â waliau solet, bydd adeiladwr da’n argymell defnyddio deunydd sy’n seiliedig ar galch. Gallai hyn gynnwys rendrad calch neu chwipiad garw calch ar gyfer gorffeniad allanol, morter calch ar gyfer pwyntio, plastr calch ar gyfer arwyneb mewnol neu goncrit calch ar gyfer y llawr. Gellir defnyddio golchiad calch, sydd â gorffeniad ysgafn yr olwg, yn fewnol neu’n allanol. Mae plastr calch yn cael ei gymysgu â thywod yn draddodiadol, ond yn gynyddol mae deunyddiau megis cywarch neu gorc yn cael eu hymgorffori yn y cymysgedd ar gyfer plastr sy’n fwy ynni-effeithlon.

Bwriwch olwg ar gyfeiriadur contractwyr Fforwm Adeiladau Traddodiadol Cymru i ganfod adeiladwr sy’n gyfarwydd â defnyddio calch.

Isod ceir rhai ffynonellau rhad-ac-am-ddim sy’n rhoi gwybodaeth am galch a sut i’w ddefnyddio. 

Mae Tŷ Mawr, yn Aberhonddu, yn gwmni sy’n cyflenwi llawer o ddeunyddiau sy’n seiliedig ar galch. Mae ganddynt hefyd hwb gwybodaeth ar-lein helaeth sy’n cynnwys gwybodaeth am Galch 

Mae Historic Scotland wedi cynhyrchu cyfres o Daflenni a elwir yn INFORM Guides ac er mai enghreifftiau o’r Alban ydynt, mae llawer o’r technegau a’r deunyddiau a ddefnyddir yn berthnasol i Gymru hefyd. 

Mae Canllawiau INFORM sy’n arbennig o berthnasol i atgyweiriadau i waith calch yn cynnwys:

Fe gynhyrchodd y Gymdeithas Gwarchod Hen Adeiladau (SPAB) gyhoeddiadau ar ofalu am hen adeiladau a’u hatgyweirio ac maent wedi cynhyrchu papur briffio manwl sy’n dwyn y teitl Lime

Mae Cadw wedi cynhyrchu rhai canllawiau sylfaenol ar Ailbwyntio mewn Calch a Chyweirio Rendrad Calch.

Mae ffynonellau gwybodaeth a chymorth eraill ar gael, ac nid yw Cyngor Sir Gaerfyrddin yn argymell un ffynhonnell cyngor a gwybodaeth yn benodol ar draul un arall.