Gorsaf Pantyffynnon

Gorsaf Pantyffynnon

Ar ôl ymweld â’r Orsaf ym Mhantyffynnon, ger Rhydaman, heddiw, nid oeddwn yn synnu i glywed bod yr adeilad hynod hwn wedi’i roi ar restr fer y Gwobrau Treftadaeth Rheilffyrdd Cenedlaethol ym mis Rhagfyr. Mae Network Rail, perchennog yr adeilad, wedi cwblhau gwaith adnewyddu mawr yn ddiweddar gan roi bywyd newydd i’r adeilad, diolch i arian grant sylweddol gan y Railway Heritage Trust.

Ar ôl yr adferiad

Cyn yr adferiad:

Ar ôl yr adferiad:

Cyn yr adferiad:

Beth sydd mor arbennig felly am Orsaf Pantyffynnon?

Mae Peiriannydd Asedau Network Rail, Darren McKenna, yn egluro bod ‘adeilad yr orsaf yn enghraifft brin o ‘chalet Brunel’, sef cynllun safonol gan y peiriannydd rheilffyrdd enwog Isambard Kingdom Brunel’.

Mae Adeilad yr Orsaf a’r blwch signalau wedi’u rhestru ar Radd 2. Mae rhestru yn dynodi ac yn dathlu diddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig adeilad, ac yn ei warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Network Rail yn berchen ar fwy o asedau rhestredig nag unrhyw sefydliad arall yn y Deyrnas Unedig. Bu’n gweithio’n agos gyda Swyddog Treftadaeth Adeiledig Sir Gâr (James Yeandle) i sicrhau bod yr adeilad yn cael ei adfer yn sensitif a bod modd yr un pryd inni ddefnyddio’r adeilad yn llawn eto.

Eglura Darren McKenna, ‘mae’r gwaith adfer wedi bod o fudd mawr. Rydym wedi adfer chalet nodweddiadol o gynllun Brunel ac mae’r gwaith yn cynrychioli ac yn enghraifft o adfer pensaernïaeth o safon uchel ar y rheilffordd. Mae’r adeilad yn ased i’r gymuned leol erbyn hyn’.

Roedd yna sialensiau, fel sy’n wir am unrhyw brosiect adfer. Dros y blynyddoedd, roedd yr adeilad wedi cael ei newid, cafodd estyniadau eu hychwanegu a chollwyd nodweddion fel y simneiau. Roedd y gymuned leol yn gallu helpu drwy anfon eu hen ffotograffau atom gan roi inni dystiolaeth o sut yr edrychai’r orsaf yn wreiddiol.

Roedd y fframiau addurnedig hardd o dywodfaen o amgylch y ffenestri yn fudr iawn felly cymerwyd gofal mawr i ganfod ffordd o’u glanhau a oedd yn effeithiol ond a oedd hefyd yn cadw manylwaith yr addurniadau.

Roedd yr adeilad wedi mynd yn llaith iawn felly ailblastrwyd y waliau mewnol â chalch a gosodwyd llawr o gymysgedd calch gan fod y deunyddiau hyn yn galluogi’r adeilad i ‘anadlu’. Roedd ailosod y simnai yn darparu system awyru ychwanegol gan alluogi’r aer i lifo ac atal lleithder.

Gweithiodd Network Rail, y contractwyr, y Tîm Treftadaeth Adeiledig a’r Railway Heritage Trust yn agos gyda’i gilydd i oresgyn y sialensiau a rhoi inni adeilad adferedig eithriadol i fod yn falch ohono. Roedd y prosiect hefyd yn brofiad dysgu gwych i fyfyrwyr Gwaith Coed Canolfan Tywi a fu’n gweithio ochr yn ochr â’r contractwyr, Towy Projects, i atgyweirio’r gwaith coed yn yr Orsaf.

Rwy’n croesi fy mysedd y bydd Network Rail a’r adeilad arbennig hwn yn Sir Gâr yn llwyddiannus yn y Gwobrau Treftadaeth Rheilffyrdd Cenedlaethol. Mae’r gwobrau’n “.. adnabod, cydnabod a gwobrwyo, er budd y cyhoedd, y cynlluniau gorau o ran adfer, cadw ac ailddefnyddio ein seilwaith rheilffyrdd hanesyddol".